BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Addysg Oedolion Cymru 2024

Adult education

Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru, yn cael ei chynnal rhwng 9 i 15 Medi 2024 gyda gweithgareddau yn cael ei gynnal drwy gydol y mis.

Nod yr ymgyrch yw cysylltu pobl gydag ystod eang o gyfleoedd dysgu, arddangos manteision addysg oedolion a dathlu llwyddiannau pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru sy’n hyrwyddo a chymryd rhan mewn dysgu a sgiliau.

Bydd yr ymgyrch yn ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb oedolion i gymryd cam yn ôl i ddysgu i wella eu hyder a’u llesiant, newid gyrfaoedd, sicrhau cynnydd mewn gwaith, darganfod angerdd newydd a chysylltu gyda phobl eraill neu geisio cyngor ac arweiniad ar y llwybrau presennol sydd ar gael iddynt.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Paid Stopio Dysgu - Adult Learners Week 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.