BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Cyflog Byw 2020

Bydd wythnos cyflog byw, sef dathliad blynyddol y mudiad Cyflog Byw yn y DU, yn cael ei chynnal rhwng 9 Tachwedd a 15 Tachwedd 2020. Mae'r mudiad yn cynnwys cyflogwyr, arbenigwyr, sefydliadau a phobl sy’n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu tâl teg.

Beth ydy manteision busnes talu’r cyflog byw go iawn?

  • 58% o fusnesau’n dweud ei fod wedi gwella'r cysylltiadau rhwng rheolwyr a’u staff
  • 75% yn dweud ei fod wedi cynyddu cymhelliant a chyfraddau cadw gweithwyr
  • 86% yn dweud ei fod wedi gwella enw da’r busnes

Caiff y cyfraddau Cyflog Byw eu cyfrifo’n annibynnol yn seiliedig ar gost wirioneddol byw yn y DU ac yn Llundain. 

Y cyfraddau newydd yw:

  • £9.50 yr awr cyfradd y DU
  • £10.85 yr awr cyfradd Llundain

Gyda chyflogwyr yn cynnal digwyddiadau ar draws y DU, dysgwch sut gall eich busnes chi gymryd rhan drwy fynd i’r wefan Cyflog Byw.

Diweddariad Covid-19 ar gyfer Cyflogwyr Cyflog Byw

Bydd llawer o Gyflogwyr Cyflog Byw yn wynebu penderfyniadau anodd. Os ydych chi'n Gyflogwr Cyflog Byw ac yn poeni am eich ymrwymiad Cyflog Byw o ganlyniad i'r heriau cyfredol, mae'r Sefydliad Cyflog Byw eisiau clywed gennych, llenwch eu ffurflen gyswllt yma.

Beth am droi at dudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i gael gwybod sut mae bod yn fusnes cyfrifol yn gallu bod o fudd i’ch staff a chael effaith gadarnhaol ar eich busnes.

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.