BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Hinsawdd Cymru 2 – 6 Tachwedd 2020

Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau am ddim, digidol a rhyngweithiol dros un wythnos, lle gall unrhyw un sy'n angerddol am newid yn yr hinsawdd ymuno â sgyrsiau gyda llunwyr polisi cenedlaethol a byd-eang, ymgyrchwyr ac arloeswyr ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Drwy gydol yr wythnos, bydd y sesiynau'n ymdrin â materion sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth, pobl ifanc, ysbytai ac ysgolion, yn ogystal â ffasiwn, busnesau, symudedd a llawer mwy. Yn bwysicaf oll, bydd yn rhoi enghreifftiau ymarferol o'r hyn y gall unigolion a sefydliadau ei wneud eu hunain i helpu i frwydro yn erbyn argyfwng hinsawdd Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i unigolion, cwmnïau a sefydliadau ledled Cymru wneud addewid i frwydro yn erbyn argyfwng hinsawdd Cymru a helpu i greu #CymruCarbonIsel. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Wythnos Hinsawdd Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.