BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Prentisiaethau Lletygarwch 2021

Cynhelir yr wythnos rhwng 18 a 22 Hydref 2021. Mae'r digwyddiad eleni yn gyfle o’r newydd i ddathlu prentisiaethau yn y sector a dod â'r gymuned letygarwch gyfan at ei gilydd i arddangos y llwybrau gyrfa unigryw ac amrywiol mae'r sector gwych a chyffrous hwn yn eu cynnig. Nod yr wythnos fydd ceisio herio'r camsyniadau sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd ym myd lletygarwch a sut mae'n golygu mwy na swydd #MoreThanAJob.

Bydd thema wahanol bob dydd yn ystod yr wythnos yn dangos prentisiaethau lletygarwch a'r holl lwybrau gyrfa gwahanol sydd ar gael:

  • Dydd Llun – lletygarwch a phrentisiaethau – chwalu'r mythau
  • Dydd Mawrth – rolau swyddi lletygarwch: cogydd
  • Dydd Mercher – rolau swyddi lletygarwch: blaen y tŷ
  • Dydd Iau – rolau swyddi lletygarwch: goruchwylwyr a rheolwyr
  • Dydd Gwener – ymunwch â ni: byddwch yn rhan o'n tîm

Gallwch lawrlwytho pecyn cymorth ymgyrchu cyflogwyr, asedau cymdeithasol, negeseuon awgrymedig a syniadau ymgyrchu yma.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, ewch i wefan Careerscope.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.