BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

“Y camau nesaf tuag at lai o reolau COVID” – Prif Weinidog Cymru

Bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd un o 17 Gorffennaf 2021. Gohiriwyd gwneud y newidiadau hyn bedair wythnos yn ôl oherwydd ymddangosiad a lledaeniad amrywiolyn Delta ar draws y DU, ac er mwyn gallu brechu mwy o bobl yng Nghymru.

A bydd yna newidiadau pellach i’r rheolau ar gyfer y tu allan wrth i Gymru gymryd y cam gofalus cyntaf tuag at lefel rhybudd sero newydd.

Mae manylion lefel rhybudd sero wedi’u hamlinellu yn y fersiwn ddiweddaraf o Gynllun Rheoli’r Coronafeirws, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw. Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny, bydd Cymru yn symud i’r lefel hon ar 7 Awst 2021.

O 17 Gorffennaf 2021, bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd un, sy’n golygu:

  • Gall hyd at chwech o bobl gyfarfod dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.  
  • Gellir cynnal digwyddiadau sydd wedi’u trefnu dan do ar gyfer hyd at 1,000 yn eistedd a hyd at 200 yn sefyll. 
  • Gall canolfannau sglefrio iâ ailagor.
  • Rheolau newydd ar gyfer canolfannau gweithgarwch preswyl i blant fel y gall grwpiau o hyd at 30 o blant ymweld
  • Gofyniad penodol i gyflogwyr ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr ar y risgiau a’r camau lliniaru a nodwyd yn eu hasesiad risg COVID ar gyfer eu gweithwyr.

Os bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar 7 Awst 2021, bydd pob safle yn cael agor, a’r rhan fwyaf – er nad pob un – o’r cyfyngiadau yn dod i ben, a bydd yn dal i fod yn ofynnol i bob sefydliad a busnes gynnal asesiadau risg COVID. Bydd y rhain yn penderfynu pa fesurau rhesymol y mae angen eu gweithredu er mwyn cadw’r gweithwyr, y cwsmeriaid a’r ymwelwyr yn ddiogel.

Ni fydd unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol chwaith ar nifer y bobl all gyfarfod â’i gilydd dan do, gan gynnwys mewn cartrefi preifat.

Bydd yn dal i fod yn ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o ardaloedd cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus ar lefel rhybudd sero o 7 Awst 2021, ac eithrio lleoliadau lletygarwch.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.