BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cyfnod Pontio o'r UE: Y Sectorau Digidol a Gwyddorau Bywyd

Gwasanaethau digidol

Rheoliadau NIS: Darparwyr gwasanaethau digidol y DU sy'n gweithredu yn yr UE: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi ar gyfer yr hyn y mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau digidol yn y DU ei wneud i gydymffurfio â'r rheoliadau sy'n ymwneud â diogelwch systemau rhwydwaith a gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Rheoliadau NIS - darparwyr gwasanaethau digidol nad ydynt yn dod o'r DU sy'n gweithredu yn y DU: Canllawiau ar yr hyn y mae'n rhaid i sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU ac sy'n cynnig Gwasanaethau Rhwydwaith a Gwybodaeth yn y DU ei wneud i gydymffurfio â rheoliadau'r DU. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Y Gyfarwyddeb e-fasnach ar ôl Brexit: Yr hyn y mae angen i chi ei wneud gan nad yw'r Gyfarwyddeb e-fasnach yn berthnasol i'r DU bellach. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK

Gwyddorau Bywyd

Adolygiadau treigl ar gyfer ceisiadau awdurdodi marchnata: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi i egluro sut y bydd y broses adolygiadau treigl ar gyfer ceisiadau awdurdodi marchnata yn gweithio, a sut i wneud cais. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Cofrestru gwybodaeth pecynnu newydd ar gyfer meddyginiaethau: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi ar sut a phryd i gofrestru deunydd pacio a thaflenni gwybodaeth wedi'u diweddaru pan fydd awdurdodiadau marchnata cenedlaethol newydd wedi'u cyhoeddi. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Canllawiau ar weithdrefnau gwyliadwriaeth ffarmacolegol: Mae canllawiau sy'n crynhoi dull y DU o ymdrin â gwyliadwriaeth ffarmacolegol wedi'u cyhoeddi. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a'r UE, ewch i Porth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.