BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws – cau ar 31 Hydref 2020

Mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn cau ar 31 Hydref 2020 a bydd angen i chi gyflwyno unrhyw hawliadau terfynol ar neu cyn 30 Tachwedd. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno neu ychwanegu at unrhyw hawliadau ar ôl 30 Tachwedd 2020.

O 1 Hydref, mae llywodraeth y DU wedi talu 60% o gyflogau arferol i gyflogwyr hyd at gap o £1,875 y mis am yr oriau nad oedd gweithwyr ar ffyrlo yn eu gweithio.

Rydych yn parhau i dalu o leiaf 80% o gyflogau arferol i weithwyr ar ffyrlo am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at gap o £2,500 y mis. Mae angen i chi ariannu’r gwahaniaeth rhwng hyn a grant y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws.

Os ydych angen cymorth i gyfrifo, ewch i’r tudalennau canlynol ar wefan llywodraeth y DU  https://www.gov.uk/guidance/calculate-how-much-you-can-claim-using-the-coronavirus-job-retention-scheme.cy

Byddwch hefyd yn parhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn cyflogwr o’ch arian eich hun.

Mae’n rhaid i chi gadw’r cofnodion sy’n cefnogi swm grant y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws rydych wedi’i hawlio rhag ofn y bydd CthEM angen ei wirio. Gallwch weld, argraffu neu lawrlwytho copïau o’r hawliadau rydych wedi’u cyflwyno eisoes drwy fewngofnodi i wasanaeth y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ar GOV‌‌‌‌.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.