BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – datganiad ar ddiffoddiad TG mawr

Cybersecurity -  Laptop and digital padlock

Yn dilyn y diffoddiad TG byd-eang ddydd Gwener 19 Gorffennaf 2024 mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi cyhoeddi datganiad, mae’r NCSC yn asesu nad yw’r diffoddiadau yn ganlyniad i ddigwyddiad diogelwch neu weithgaredd seiber maleisus. Dylai sefydliadau yr effeithir arnynt roi mesurau lliniaru’r gwerthwr ar waith.

Mae atgyweiriadau bellach ar gael i ddatrys y problemau, a dylai sefydliadau yr effeithir arnynt edrych ar ganllawiau perthnasol y gwerthwr a chymryd y camau angenrheidiol.

Mae gosod diweddariadau diogelwch yn dal i fod yn arfer diogelwch hanfodol a dylai sefydliadau barhau i'w gosod pan fyddant ar gael. Dylai sefydliadau hefyd barhau i ddefnyddio cynhyrchion gwrthfeirws fel arfer.

Mae'r NCSC hefyd yn rhybuddio am gynnydd mewn achosion cysylltiedig o we-rwydo. Dylai sefydliadau adolygu canllawiau’r NCSC i wneud yn siŵr bod mesurau lliniaru gwe-rwydo aml-haen ar waith, tra dylai unigolion fod yn effro i e-byst neu negeseuon amheus ar y pwnc hwn a gwybod beth i chwilio amdano.

Parodrwydd i'r Dyfodol

Gall digwyddiadau fel y diffoddiad byd-eang hwn gael effaith enfawr ar eich sefydliad. Mae canllawiau’r NCSC ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau yn lle da i ddechrau.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol: Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol - NCSC.GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.