BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Gyfnewidfa Llesiant Ar-lein: Dechrau a datblygu eich busnes llesiant

Os ydych chi’n rhedeg busnes dillad, bwyd a diod, atchwanegiadau, chwaraeon, ffitrwydd, harddwch neu nwyddau cartref yn y sector llesiant, dyma’r digwyddiad i chi.

Cewch gyfarfod prynwyr manwerthu gan glywed sut i sicrhau bod eich cynhyrchion yn cael eu stocio, cewch gyngor gan entrepreneuriaid llwyddiannus yn y diwydiant a dysgu sut i dyfu’ch busnes yn y digwyddiad ar-lein cyffrous hwn.

Cynhelir y digwyddiad ar-lein ar 20 Awst 2021, rhwng 12pm a 5.30pm.

Mae digwyddiadau cyfnewidfa yn eich rhoi mewn cysylltiad â phrynwyr brandiau sy’n chwilio am gynhyrchion a chewch gyngor pwrpasol gan arbenigwyr yn y diwydiant i’ch helpu i dyfu’ch busnes. Gallwch wneud cais i gyflwyno’ch cynhyrchion i Boots a Planet Organic, yn fyw ar wegamera yn y digwyddiad yma. Y dyddiad cau i wneud cais yw 11:59pm ar 17 Awst 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Y Gyfnewidfa Llesiant: Dechrau a datblygu eich busnes Llesiant - Awst 20 | Hopin

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.