![doctor with Virtual reality equipment in the laboratory](/sites/maingel2/files/styles/post_featured/public/images/shutterstock_532116217.jpg.webp?itok=WN9rKKIK)
Mae’r rhaglen Llwybr Mynediad at Ddyfeisiau Arloesol (Innovative Devices Access Pathway – IDAP) wedi’i chynllunio i gyflymu datblygiad dyfeisiau meddygol cost-effeithiol a’u hintegreiddio i farchnad y Deyrnas Unedig (DU).
Mae cynllun peilot yr IDAP yn fenter i ddod â thechnolegau a datrysiadau newydd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) i helpu ag anghenion meddygol nad ydynt yn cael eu bodloni ar hyn o bryd.
Nod yr IDAP yw hwyluso a gwella mynediad cleifion i ddyfeisiau meddygol arloesol a thrawsnewidiol trwy ddarparu llwybr rheoleiddio a mynediad integredig a gwell i ddatblygwyr. Nod y cynllun peilot yw profi prif elfennau’r llwybr a darparu gwybodaeth a ddysgir ac adborth sy’n helpu i adeiladu’r IDAP yn y dyfodol.
Mae’r IDAP, a gefnogir gan £10 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, yn agored i ddatblygwyr masnachol ac anfasnachol yn y DU ac yn rhyngwladol sydd â datrysiadau newydd ym maes technoleg iechyd.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cymorth gan bartneriaid yr IDAP ar gamau allweddol yn eu proses o ddylunio a datblygu cynnyrch.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Hydref 2023.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: The Innovative Devices Access Pathway (IDAP) - GOV.UK (www.gov.uk)