BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi eisiau defnyddio mwy o Gymraeg yn eich busnes neu elusen?

Croeso / Welcome

Gall defnyddio’r Gymraeg arwain at ddenu cwsmeriaid newydd a chynyddu enw da eich busnes neu elusen.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

  • System ar lein er mwyn hunan asesu eich gwasanaethau
  • Cymorth i baratoi Cynllun Datblygu sy’n gyfle i adnabod eich prif wasanaethau Cymraeg
  • Cymorth wrth weithio tuag at gydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd am eich Cynnig Cymraeg
  • Hyfforddiant a chymorth un i un yn seiliedig ar eich anghenion
  • Cyfarfodydd rhwydweithiau rheolaidd er mwyn rhannu profiadau ac arfer da
  • Canllawiau ymarferol ar bob agwedd o ddatblygu gwasanaethau Cymraeg;
  • Gwasanaeth prawfddarllen - hyd at 1,000 o eiriau’r flwyddyn.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Busnesau ac elusennau (comisiynyddygymraeg.cymru)

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i’ch  cynghori  ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn eich busnes. Ac mae’r cwbl am ddim! I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Helo Blod | Helo Blod (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.