BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n masnachu gyda’r UE? Cofrestrwch i gael lle ar un o weminarau CThEM

Os ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a gwledydd yn yr UE, mae angen i chi ddilyn rheolau tollau a threth newydd.

Bydd y rheolau newydd yn effeithio ar eich busnes os ydych:

  • yn prynu nwyddau gan werthwr o’r UE ac yn eu mewnforio i’r DU
  • yn anfon nwyddau rydych chi wedi’u gwerthu at brynwr yn un o wledydd yr UE
  • heb gyfnewid arian ond angen symud offer a ddefnyddiwch ar gyfer eich busnes, rhwng y DU a’r UE.

Gallwch fynychu gweminarau CThEM i’ch helpu i addasu i’r rheolau newydd a chadw eich busnes i symud.

Mewnforio – camau y mae angen i chi eu cymryd cyn gwneud eich datganiad atodol: I gefnogi’r rhai hynny sydd wedi gohirio eu datganiadau mewnforio tollau, mae CThEM yn esbonio’r camau y mae angen i chi eu cymryd cyn y gallwch wneud datganiad atodol a sut y gall cyfryngwyr eich helpu i wneud hyn.

Cofrestrwch i gymryd rhan os ydych wedi mewnforio nwyddau ers 1 Ionawr 2021 ac nad ydych wedi cwblhau datganiad tollau ar eu cyfer eto.

Os ydych yn bwriadu mewnforio a’ch bod am ddeall y broses datganiadau llawn, cofrestrwch ar gyfer Datganiadau Mewnforio Tollau: Trosolwg.

Allforio: beth sydd angen i chi ei wneud i gadw eich nwyddau i symud: Trosolwg o’r camau i’w cymryd nawr wrth allforio nwyddau o Brydain Fawr i’r UE a symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Mae’r prosesau allweddol yn cynnwys – TAW gradd sero, datganiadau tollau, defnyddio cyfryngwr yn ogystal â thrwyddedau, tystysgrifau ac awdurdodiadau.

Cofrestrwch i gymryd rhan os ydych yn bwriadu allforio.

Cyfrifoldebau masnachwyr wrth ddefnyddio cyfryngwr: Mae’r weminar hon yn esbonio eich cyfrifoldebau fel masnachwr, os byddwch yn dewis defnyddio cyfryngwr i gwblhau datganiadau mewnforio neu allforio ar gyfer eu busnes. Mae’r rhain yn gymhleth a gall cyfryngwr arbed llawer o amser iddynt.

Cofrestrwch i gymryd rhan os ydych yn bwriadu mewnforio neu allforio.

Rheolau tarddiad: Gwyliwch recordiad o weminar os ydych yn prynu nwyddau o’r UE neu’n anfon neu’n gwerthu nwyddau i’r UE ar gyfer eu busnes, bydd y weminar hon yn eich helpu i ddeall rheolau tarddiad a’r hyn sydd ei angen i fodloni’r rheolau.

Ffoniwch linell gymorth Tollau Tramor a Masnach Ryngwladol CThEM ar 0300 322 9434, i gael rhagor o gymorth gyda mewnforio, allforio neu ryddhad tollau.

Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 8am i 4pm ar benwythnosau.

Gallwch hefyd anfon eich cwestiynau ar ein ffurflen ar-lein neu dros we-sgwrs.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.