BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a’r UE?

Os ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a gwledydd yn yr UE, mae angen i chi ddilyn rheolau tollau a threth newydd. Gall CThEM helpu eich busnes i ddeall yr heriau. 

Os oes gennych gwestiynau penodol am fewnforio, allforio neu ryddhad tollau tramor, dylech ffonio llinell gymorth Tollau Tramor a Masnach Ryngwladol ar 0300 322 9434. Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 8am i 4pm ar benwythnosau. Gallwch hefyd anfon eich cwestiynau neu sgwrsio ar-lein.

Gwyliwch fideos ar sianel YouTube CThEM i’ch helpu i ymgyfarwyddo â’r prosesau tollau tramor newydd a’r hyn y mae angen i chi ei wneud cyn masnachu nwyddau gyda’r UE.

Os ydych chi’n prynu nwyddau o’r UE, neu’n anfon neu’n gwerthu nwyddau i’r UE ar gyfer eich busnes, bydd y weminar wedi’i recordio ar Reolau Tarddiad yn eich helpu i ddeall y broses a beth sydd angen i chi ei wneud.

Mae gweminarau a fideos gan adrannau eraill Llywodraeth y DU ar gael hefyd.

Yn ogystal, mae rhestr wirio masnachwyr, y canllawiau diweddaraf a fforymau cwsmeriaid.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.