BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i’r gweithwyr?

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau newydd i sicrhau bod cyflogwyr yn gwybod yn iawn beth sydd angen iddynt ei wneud i dalu eu prentisiaid a’u holl weithwyr yn briodol.

Mae gan bob un gweithiwr yn y DU hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, faint bynnag eu hoedran neu beth bynnag eu proffesiwn.

Er nad yw pob achos o beidio â thalu’r isafswm cyflog yn fwriadol, cyfrifoldeb pob cyflogwr yw hi wedi bod erioed i gadw at y gyfraith.

Gall achosion o beidio â thalu’r isafswm cyflog ddigwydd pan fo gweithwyr yn cael eu talu union gyfradd yr isafswm cyflog neu ychydig yn fwy na hynny, ac yna’n wynebu didyniadau o’u cyflog am wisgoedd neu lety.

Mae’n rhaid i gyflogwyr sy’n talu llai na’r isafswm cyflog i’w gweithwyr dalu ôl-ddyledion cyflog yn ôl i’r gweithwyr ar gyfraddau’r isafswm cyflog presennol. Maent hefyd yn wynebu dirwyon ariannol sylweddol o hyd at 200% o ôl-ddyledion - gyda therfyn o £20,000 am bob gweithiwr - a delir i Lywodraeth y DU.

Mae canllawiau clir ar gael ar GOV.UK, a dylai pob cyflogwr fwrw golwg ar y rhain.

Yn ogystal â chyngor i gyflogwyr, mae CThEM yn cynnig cyngor i weithwyr ar sut i sicrhau eu bod yn cael eu talu yn iawn, ar wefan Check your pay website.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.