Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori ar y Cod Ymarfer a’r cynigion gorfodi a sancsiynau ar gyfer rheoliadau ailgylchu yn y gweithle sy’n cynnwys y sector Busnes, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector rhwng 23 Tachwedd 2022 a 15 Chwefror 2023.
Mae’r ymgyngoriadau yn nodi manylion y gofynion arfaethedig ar gyfer pob busnes a sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, i wahanu deunyddiau ailgylchadwy allweddol fel y mae’r rhan fwyaf o ddeiliaid tŷ Cymru eisoes yn ei wneud. Bydd y diwygiadau yn gwella ansawdd a maint yr ailgylchu sy’n cael ei wneud ac yn darparu cysondeb yn y ffordd y byddwn yn casglu deunyddiau ailgylchadwy i sicrhau arbedion carbon sylweddol a manteision cadarnhaol i’r economi.
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, AS, wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig, Datganiad Ysgrifenedig: Ymatebion i’r ymgynghoriad ar Ddiwygiadau Ailgylchu i Fusnesau, y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector a dyddiad dod i rym newydd (27 Ebrill 2023) | LLYW.CYMRU, sy’n cyd-fynd â chyhoeddi:
- crynodebau o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gafwyd Cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru | LLYW.CYMRU ac
- Asesiad o’r Gystadleuaeth sy’n asesu’r effeithiau y gallai’r ddeddfwriaeth eu cael ar gystadleuaeth busnesau Cynyddu ailgylchu mewn gweithleoedd: asesiad o’r effeithiau ar gystadleuaeth | LLYW.CYMRU
Bydd adborth yr ymgynghoriad nawr yn cael ei ystyried wrth gwblhau’r ddeddfwriaeth a’r Cod Ymarfer cyn gosod y ddeddfwriaeth yn yr hydref 2023 ac, yn amodol ar ewyllys y Senedd, gan ddod i rym ar 6 Ebrill 2024.
Bydd ymgyrch genedlaethol yn cael ei gynnal drwy gydol 2023 a 2024 i godi ymwybyddiaeth o’r gofynion ailgylchu yn y gweithle ymhellach. Bydd adnoddau ymarferol yn cael eu ddarparu i gefnogi gweithleoedd a’r sector gwastraff i baratoi ar gyfer y newidiadau, megis canllawiau arferion da, astudiaethau achos a phosteri ac arwyddion i’w lawrlwytho.
Mae’r diwygiadau hyn yn rhan allweddol o’r ymrwymiad i gyflawni y Rhaglen Lywodraethu i adeiladu economi gryfach, wyrddach yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol. Mae hyn hefyd yn elfen hanfodol o’r camau i ddatgarboneiddio a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.