BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn Rhaglenni Arweinyddiaeth wedi’u Cyllido’n Llawn

Mae ION Leadership wedi gallu ehangu eu rhaglenni arweinyddiaeth sydd wedi’u cyllido’n llawn hyd 31 Mawrth 2022. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan gronfeydd yr UE o dros £6 miliwn, ac yn ystod yr 11 mlynedd diwethaf mae wedi cefnogi dros 1500 o arweinwyr mewn dros 1000 o fusnesau i ddatblygu mentrau cynaliadwy a phroffidiol.

Sut allwch chi gymryd rhan?

Mae mor hawdd ag 1, 2, 3:

1.    Ydych chi’n gymwys? Mae’r rhaglenni sydd wedi’u cyllido’n llawn ar gael i fusnesau ac unigolion ledled Cymru sy’n bodloni meini prawf penodol. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r Cwestiynau Cyffredin.
2.    Chwiliwch am gwrs yn eich ardal gyfagos, gan sicrhau eich bod yn gallu mynychu dyddiadau’r rhaglen. Ewch i’r dudalen cyrsiau i gael rhagor o wybodaeth am raglenni sydd ar y gweill.
3.    Cofrestrwch.

Mae lleoedd ar y rhaglenni a gyllidir yn llawn wedi’u cyfyngu felly cysylltwch cyn gynted â phosibl. Yn sgil y pandemig coronafeirws, mae’r tîm ION yn gweithio o gartref ar hyn o bryd, felly os ydych chi am siarad gydag aelod o dîm ION, cysylltwch ag ionleadership@swansea.ac.uk neu ionleadership@bangor.ac.uk  

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan ION Leadership.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.