Bydd gweithwyr ledled y Deyrnas Unedig yn derbyn rhagor o gymorth yn dilyn y cyhoeddiad i ymestyn y cynllun ffyrlo am bum mis hyd at Wanwyn 2021.
Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) yn para tan ddiwedd mis Mawrth a bydd gweithwyr cyflogedig yn derbyn 80% o’u cyflog presennol am oriau nas gweithiwyd.
Yn yr un modd, bydd cymorth ar gyfer miliynau o weithwyr eraill trwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod y Coronafeirws (SEISS) yn cynyddu, gyda’r trydydd grant ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr yn cael ei gyfrifo fel 80% o elw masnachu cyfartalog, hyd at uchafswm o £7,500.
Ewch i wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth.