BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yn anfon eitemau rhyngwladol trwy'r Post Brenhinol? Eich cyfrifoldeb chi yw cydymffurfio â'r tollau

Os ydych chi'n werthwr busnes neu’r farchnad sy’n anfon eitemau dramor, dim ond trwy ddull cludo cymeradwy y gellir darparu data tollau electronig sy'n cydymffurfio.

Mae data tollau electronig bellach yn orfodol pan fyddwch chi'n anfon eitemau / nwyddau dramor (ac eithrio gohebiaeth bersonol).

Os na fyddwch yn cydymffurfio â hyn, gallai arwain at oedi, dychwelyd eich eitemau neu hyd yn oed eu dinistrio.

Gan ddibynnu ar sut rydych chi'n postio'ch eitemau yn rhyngwladol, bydd hyn yn pennu sut rydych chi'n darparu data tollau electronig.

Rhagor o fanylion ar wefan y Royal Mail. 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.