BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi adnoddau newydd er mwyn cefnogi busnesau bwyd sy’n paratoi ar gyfer newidiadau labelu alergenau

Ar 1 Hydref 2021, bydd y gyfraith o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) yn newid. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw fusnesau bwyd sy’n gwerthu bwyd PPDS gynnwys rhestr gynhwysion lawn ar label y cynnyrch gyda chynhwysion alergenaidd wedi’u pwysleisio yn y rhestr honno.

Daw’r newidiadau, a gyfeirir atynt hefyd fel ‘Cyfraith Natasha’, i rym ar ôl i ferch ifanc o’r enw Natasha Ednan-Laperouse farw o ganlyniad i adwaith alergaidd. Achoswyd yr adwaith gan baguette a oedd wedi’i becynnu ymlaen llaw, nad oedd angen iddo gynnwys label alergenau yr adeg honno.  

Er mwyn helpu i gefnogi busnesau bwyd, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio Hwb PPDS sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys canllawiau labelu newydd ar gyfer bwydydd PPDS, yn ogystal â 
chanllawiau a fydd o gymorth i sectorau penodol gan gynnwys siopau bara, cigyddion, bwytai bwyd brys a siopau tecawê, gwerthwyr symudol, bwytai, caffis a thafarndai, ac ysgolion. 

Mae pob un o’r canllawiau’n darparu gwybodaeth ymarferol am PPDS a sut y gallai’r newidiadau hyn effeithio ar fusnes bwyd. 

Bydd yr ASB hefyd yn cynnal gweminar ar gyfer busnesau bwyd ar 4 Awst 2021 am 2pm. Bydd y gweminar yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr a all drafod y newidiadau hyn ac ateb eich cwestiynau. Mae’r sesiwn ar agor i fusnesau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.