Gwyddorau Bywyd
Canllawiau i fanwerthwyr: cyflenwi meddyginiaethau dros y cownter i Ogledd Iwerddon: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi sy'n esbonio sut mae cyflenwi meddyginiaethau i Ogledd Iwerddon yn gweithio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Canllawiau i fanwerthwyr: cyflenwi dyfeisiau meddygol i Ogledd Iwerddon: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi yn esbonio sut mae cyflenwi dyfeisiau meddygol i Ogledd Iwerddon yn gweithio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Gwybodaeth ar gyfer Busnes
Derbyn llog, breindaliadau neu daliadau difidendau o'r UE: Cyhoeddwyd canllawiau yn esbonio newidiadau i ddidyniadau treth o log, breindaliadau a difidendau, yn dilyn diwedd cyfnod pontio Brexit. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Caffael yn y sector cyhoeddus: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi gyda gwybodaeth i awdurdodau cyhoeddus, busnesau a sefydliadau eraill, am bolisi caffael cyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Symud Nwyddau
Symud nwyddau rhwng y DU ac Iwerddon: Mae angen i'r rhai sy'n symud nwyddau rhwng y DU ac Iwerddon gwblhau Hysbysiad Cyn-Byrddio gan ddefnyddio system Cyllid Iwerddon. Mae canllaw Defnyddiwr ar gyfer Hysbysiad Cyn-Byrddio (PBN) ar gael gan lywodraeth Iwerddon. Mae canllaw fideo ar gael ar wefan Cyllid Iwerddon hefyd.
Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a'r UE, ewch i Porth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.