BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Newid Esmwyth at Berchnogaeth Gweithwyr i Wavehill

Mae cwmni ymchwil cymdeithasol ac economaidd o Aberaeron wedi i berchnogaeth gweithwyr, gan gadarnhau ei ethos tîm a'i ymagwedd busnes.

Cafodd Wavehill ei sefydlu ym 1992 ac mae ganddo swyddfeydd yn Aberaeron, Bryste, Newcastle a Llundain; mae wedi datblygu enw da ac arbenigedd profedig ym meysydd ymchwil cymdeithasol ac economaidd, gwerthuso ac asesu effaith.

Symudodd y cwmni at fodel Perchnogaeth Gweithwyr gyda chefnogaeth tîm Perchnogaeth Gweithwyr Cymru yn Busnes Cymdeithasol Cymru, sy'n cynnig arweiniad a chefnogaeth wedi'i gyllido'n llawn ar Berchnogaeth Gweithwyr a Chynlluniau Cyfrannau i fusnesau Cymru.

Meddai Mark Willis, sylfaenydd Wavehill: "Mae gennym werthoedd clir fel cwmni, etheg hynod o gadarn a diwylliant sy'n seiliedig ar gydweithio a pharch, felly wrth feddwl am gynllunio olyniaeth a pharhad, roedd mynd at berchnogaeth gweithwyr yn gam naturiol.

“I ni, mae'n golygu ymrwymiad i'n tîm, nifer ohonyn nhw wedi bod gyda ni am flynyddoedd lawer ac wedi bod yn hanfodol i'n llwyddiant. Rydyn ni eisiau eu grymuso nhw; i rannu yn y llwyddiant rydyn ni wedi'i adeiladu a gwneud i'n gweithwyr deimlo eu bod yn rhan o'n twf parhaus."

Mae tîm Perchnogaeth Gweithwyr Cymru yn Busnes Cymdeithasol Cymru wedi rhoi cyngor i dros 50 o gwmnïau yng Nghymru ar drosglwyddo perchnogaeth yn cynnwys cwmnïau fel Waffles Tregroes a'r cwmni cynhyrchu teledu annibynnol, Cwmni Da.

Meddai Paul Cantrill, o dîm Perchnogaeth Gweithwyr Cymru: “Roedd cymryd y camau hyn i Mark yn estyniad naturiol i ethos y cwmni ac mae wedi bod yn fanteisiol i bob parti oedd yn rhan ohono am ymddiried ynom ni i helpu i reoli'r broses. Mae llawer o gwmnïau yng Nghymru yn sylweddoli mai model Perchnogaeth Gweithwyr yw'r dewis call iddyn nhw, yn enwedig os ydyn nhw wedi tyfu o had, gydag ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at eu gweithwyr, ac eisiau cefnogi a chadw swyddi lleol. Byddem yn annog perchnogion busnesau eraill i gysylltu er mwyn dysgu sut y gallai Perchnogaeth Gweithwyr gefnogi eu busnesau i ffynnu.”

Cafodd Wavehill gefnogaeth bellach drwy gydol y camau pontio gan Acuity Law a Chyfrifyddion Siartredig BPU. Natalie Jones a Steve Berry o Acuity Law roddodd gyngor ar agweddau cyfreithiol y prosiect. Mynegodd Steve Berry ei gefnogaeth i'r strwythur perchnogaeth newydd: "Mae'n cydsynio'n dda â'r cefndir economaidd a gwleidyddol i fusnesau fel Wavehill lle mai pobl yw y prif ased. Mae Wavehill yn enghraifft wych o fusnes sydd wedi meithrin talent ac wedi llwyddo drwy gymryd golwg strategol hir-dymor ar ei ddatblygiad. Mae'r strwythur Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr newydd yn fodel pwerus ac yn un fydd yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i weithwyr Wavehill yn ogystal â chyfran ariannol yn llwyddiant y cwmni yn y dyfodol."

Huw Palin a Martin Knight o gwmni Cyfrifyddion Siartredig BPU fu'n helpu'r tîm yn Wavehill gyda chyngor ar brisio'r cwmni a'r materion treth amrywiol i'w hystyried wrth sefydlu EOT. Meddai Huw Palin: "Rydyn ni'n gweld diddordeb cynyddol gan ein cleientiaid yn y model EOT fel dull effeithiol ar gyfer olyniaeth busnes, a chredwn y byddwn, gyda chefnogaeth Perchnogaeth Gweithwyr Cymru, yn gweld llawer rhagor o enghreifftiau llwyddiannus o'r rhain yn y dyfodol. Mae EOT yn gweithio'n arbennig o dda lle ceir cyfuniad o reolwyr sy'n edrych at y dyfodol a gweithwyr sydd wedi eu symbylu'n fawr fel sydd i'w gweld yn Wavehill."

Mae Perchnogaeth Gweithwyr Cymru yn wasanaeth sy'n cael ei ddarparu fel rhan o Fusnes Cymdeithasol Cymru sy'n cael ei gyflwyno gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a'i gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth am Berchnogaeth Gweithwyr Cymru ewch i: https://employeeownershipwales.co.uk/

Am ragor o wybodaeth am Wavehill ewch i: https://www.wavehill.com/


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.