BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adnoddau digidol ar gyfer masnachwyr

Mae’r Adran Masnach Ryngwladol wedi lansio dau adnodd digidol ar gyfer busnesau sy’n allforio nwyddau i mewn ac allan o farchnad y DU.

Mae’r adnoddau sy’n rhad ac am ddim i'w defnyddio yn rhoi manylion sy’n benodol i gynnyrch a gwledydd yng nghyswllt tariffau, rheoliadau a phynciau eraill mewn un lle, gan ei gwneud yn haws iddyn nhw fasnachu.

Mae’r adnodd ‘Trade with the UK’ yn darparu gwybodaeth fanwl a chyfredol i fusnesau sy’n allforio nwyddau i mewn i farchnad y DU am bynciau fel tariffau, trethi a rheolau.

Mae’r adnodd ‘Check How to Export Goods’ yn darparu gwybodaeth i rai sy’n allforio nwyddau allan o farchnad y DU am bynciau fel tollau a threfniadau tollau tramor ar gyfer dros 160 o farchnadoedd ledled byd. Mae’r adnodd hefyd yn darparu gwybodaeth am ffin y DU a gafwyd gan adrannau eraill y llywodraeth fel Cyllid a Thollau EM ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.