BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ailgyflwyno profion MOT gorfodol o 1 Awst

Bydd profion MOT gorfodol yn cael eu hailgyflwyno o 1 Awst 2020 wrth i gyfyngiadau COVID-19 godi bob yn dipyn.

Oherwydd achosion o'r coronafeirws, ym mis Mawrth cafodd gyrwyr ganiatâd i gael eu heithrio rhag profion MOT am 6 mis er mwyn helpu i arafu lledaeniad y firws.

Fodd bynnag, gan fod y cyfyngiadau'n cael eu llacio, mae'n rhaid i yrwyr â char, beic modur neu fan sydd angen prawf MOT o 1 Awst ymlaen, gael tystysgrif brawf er mwyn parhau i yrru, os yw'n ddiogel gwneud hynny.

Bydd perchnogion cerbydau â dyddiad MOT dyledus cyn 1 Awst yn dal i gael esemptiad am 6 mis.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.