BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Allai eich busnes chi ymdopi â thywydd garw'r gaeaf?

Pa un a ydych chi’n fusnes bach, canolig neu fawr, gall y tywydd effeithio arnoch chi mewn unrhyw le ac ar unrhyw adeg. Mae treulio amser yn cynllunio ac yn paratoi’ch busnes yn gallu arbed amser ac arian i chi pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le.

Bydd creu cynllun parhad busnes yn eich helpu i ddeall a rheoli'r peryglon sy’n wynebu busnesau mewn achosion o eira mawr, llifogydd neu dywydd tebyg.

Hefyd, cynghorir busnesau i baratoi bag llaw ag eitemau hanfodol y mae modd cael gafael arno’n hawdd petai'n rhaid gwagio'r adeilad neu os nad oes modd mynd i mewn iddo.

Gellir cynnwys eitemau megis copi o fanylion cyswllt allweddol, copïau o ddogfennau yswiriant, cardiau’r busnes a chynllun parhad busnes er mwyn sicrhau cydnerthedd yn dilyn yr argyfwng.

Mae busnesau hefyd yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol y gallai amodau tywydd gwael rwystro staff rhag teithio i’r gwaith. Felly, dylech werthuso’r risgiau a darparu atebion ar gyfer bod yn brin o staff ar adegau felly.

I gael rhagor o wybodaeth am baratoi ar gyfer argyfyngau, ewch i wefan:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.