BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

APC 17: datblygu gallu modurol carbon isel y DU

Mae’r Advanced Propulsion Centre (APC) yn buddsoddi hyd at £30 miliwn, deirgwaith y flwyddyn, mewn prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol. Mae’r rhain yn brosiectau cyn-cynhyrchu â chyllid cyfatebol. Yn y cylch hwn, mae APC yn buddsoddi £27 miliwn.

Mae’n rhaid i’ch prosiect ganolbwyntio ar y farchnad fodurol fel y prif ddefnydd ohono.

Mae APC 17 yn chwilio am:

  • brosiectau sy’n cefnogi galluoedd hirdymor y DU drwy sicrhau buddsoddiad hirdymor mewn ymchwil a datblygu
  • prosiectau y gellir eu cyflawni drwy gadwyn gyflenwi gysylltiedig y ganolfan wrth ddylunio, adeiladu a gweithgynhyrchu cerbydau heb unrhyw allyriadau o’r bibell fwg

Yn ddelfrydol, bydd eich prosiect yn cyflawni’r ddau nod, er mwyn sicrhau bod y DU yn bodloni galw gwneuthurwyr cerbydau yn y dyfodol.

Bydd y gystadleuaeth yn dod i ben ar 14 Hydref 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.