BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Barn ar weledigaeth datrys anghydfodau

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio galwad bwysig am dystiolaeth gan ofyn am sylwadau ar y ffyrdd gorau o ddatrys anghydfodau ymhlith busnesau, unigolion, teuluoedd ac anghydfodau sifil eraill heb straen a chost achos llys.

Bydd yr ymatebion yn llywio diwygiadau i'r maes cyfiawnder sifil, teuluol a gweinyddol yn y dyfodol ac yn ystyried a allai technolegau newydd, yn ogystal â gwasanaethau fel cyfryngu a chymodi, gynnig llwybrau mwy clyfar a llai gelyniaethus o ddatrys anghydfod.

Bydd ymgyfreitha yn parhau'n opsiwn agored i bawb, ac mae'n anochel y bydd rhai achosion yn gorfod mynd gerbron llys.

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 30 Medi 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK neu gallwch ymateb i'r ymgynghoriad yma - Dispute resolution in England and Wales: Call for Evidence - Ministry of Justice - Citizen Space


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.