BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Briff Cystadleuaeth Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol

Ymunwch â’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), Innovate UK a KTN, am fanylion ffenestr y gwanwyn o gyllid gan y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol ac i arddangos rhai o’r prosiectau a gyllidwyd yng Ngham 1 y Gronfa.

Mae’r cyllid ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn werth hyd at £40 miliwn. Bydd ar gael ar ffurf cynllun grant a bydd yn cyllido:

  • defnydd technolegau effeithlonrwydd ynni aeddfed.
  •  astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg

Bydd y digwyddiad yn cynnwys y cyfle i:

  • glywed am gwmpas y cystadlaethau yn fanylach
  • clywed gan berchnogion safleoedd diwydiannol a gyllidwyd yng Ngham 1
  • rhwydweithio ar-lein a datblygu partneriaethau ar gyfer y cystadlaethau
  • siarad gyda BEIS ac Innovate UK ar-lein am drafodaeth 1:1 am syniad eich  prosiect

Bydd y digwyddiad o fudd i lawer o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys:

  • cwmnïau gweithgynhyrchu
  • canolfannau data
  • arloeswyr a gweithwyr proffesiynol effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio 

Cynhelir y briff ar 8 Mehefin 2021 rhwng 10am a 12:45pm.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich lle, ewch i wefan KTN 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.