BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Busnesau yn elwa ar reoli gwaith teg

Gwneud gwaith yn decach, yn fwy diogel ac yn well i bawb yw’r peth gorau i weithwyr ac i fusnesau. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu i hyrwyddo gwaith teg bob cyfle fel rhan o'i chenhadaeth i adeiladu Cymru decach, wyrddach, sy’n gryfach a mwy llwyddiannus. 

Mae gwaith teg i bawb, waeth beth yw maint eich busnes, y sector na lle rydych chi ar eich taith tuag at waith teg ar hyn o bryd. Mewn ymateb i'r hyn rydym wedi'i glywed gan fusnesau, rydym wedi llunio canllaw byr gyda'r bwriad o symleiddio gwaith teg, tynnu sylw at ei fanteision a darparu rhai enghreifftiau o ffyrdd y gallwch ymgorffori gwaith teg yn eich busnes chi.

Mae llawer o fusnesau yn gweld manteision gwaith teg iddyn nhw eu hunain ac i’r gweithlu, beth am ymuno â nhw?  

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Canllaw i waith teg | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.