BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Busnesau’n cael rhagor o amser i osod marciau diogelwch ar gynhyrchion newydd

Bydd busnesau’n cael blwyddyn yn ychwanegol i osod marciau diogelwch ar gynhyrchion newydd ar gyfer y rhan fwyaf o gynhyrchion a roddir ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Mae’r UK Conformity Assessed (UKCA) marking yn galluogi’r DU i gael rheolaeth dros ei reoliadau nwyddau, gan gynnal y safonau diogelwch uchel disgwyliedig yn y DU ar gyfer cynhyrchion.

Gan gydnabod effaith y pandemig ar fusnesau, bydd Llywodraeth y DU yn ymestyn y dyddiad terfyn hwn i 1 Ionawr 2023 (yn hytrach na 1 Ionawr 2022) ar gyfer gosod marciau’r UKCA ar rai cynhyrchion er mwyn dangos cydymffurfiaeth â rheoliadau diogelwch cynhyrchion.

Mae marciau’r UKCA yn disodli’r labeli diogelwch ar gyfer cynhyrchion yr arferai’r  DU eu defnyddio fel aelod o’r UE, fel y nod CE.  

Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.