Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn annog busnesau i amddiffyn eu hunain rhag asiantiaid ardrethi busnes twyllodrus.
Daeth gwerthoedd ardrethi newydd ar gyfer eiddo busnes i rym yn Ebrill 2023.
Defnyddiodd cynghorau’r gwerthoedd newydd hyn i gyfrifo biliau ardrethi busnes.
Gall busnesau herio’u prisiad os ydynt o’r farn ei fod yn anghywir. Gallant ddefnyddio asiant ardrethi i wneud hyn.
Ond mae rhai asiantiaid twyllodrus yn cyflwyno gwybodaeth anghywir. Gallai hyn arwain at gosbau neu filiau ardrethi uwch.
Byddwch yn wyliadwrus rhag unrhyw un sy’n gwarantu y gallant sicrhau gostyngiadau mewn ardrethi busnes.
Am wybodaeth bellach, dilynwch y ddolen ganlynol Be wary of rogue business rates agents - GOV.UK (www.gov.uk)