BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd

Nawr, gall busnesau ledled Cymru ddarganfod a allant wneud cais am arian o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd.

Bydd y gwiriwr cymhwysedd yn galluogi busnesau i weld a allant gael mynediad i gyfran o £80 miliwn y gronfa a fydd yn cefnogi cwmnïau gyda phrosiectau a all eu helpu i drosglwyddo i economi'r dyfodol.

O'r swm hwn, bydd £20 miliwn wedi'i glustnodi i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch sy'n wynebu heriau penodol a ninnau ar drothwy'r gaeaf.

Bydd gwerth £80 miliwn o grantiau datblygu busnes yn agored i ficro fusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr.

  • Bydd micro fusnesau (sy'n cyflogi rhwng 1 a 9 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000 ar yr amod eu bod yn darparu buddsoddiad cyfatebol eu hunain o 10 y cant o leiaf
  • Bydd BBaChau (sy'n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £150,000 ar yr amod eu bod yn darparu buddsoddiad cyfatebol eu hunain o 10% o leiaf ar gyfer busnesau bach (1-49 o staff) ac 20% o leiaf ar gyfer busnesau canolig (50-249)
  • Bydd busnesau mawr (sy'n cyflogi 250+ o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £200,000 ar yr amod eu bod yn darparu buddsoddiad cyfatebol eu hunain o 50% o leiaf

Mae'r Gwiriwr Cymhwysedd ar gyfer y rhan hon o'r gronfa i'w weld yn 

https://fundchecker.businesswales.gov.wales/erfphase3/cy

Gallwch wneud cais i’r gronfa grantiau o 26 Hydref 2020 am pedwar wythnos.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.