BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofiwch ddatgan grantiau COVID-19 ar eich ffurflen dreth

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa cwsmeriaid Hunanasesu i ddatgan unrhyw daliadau grant COVID-19 ar eu ffurflen dreth 2020 i 2021.

Mae'r grantiau hyn yn drethadwy a dylai cwsmeriaid eu datgan ar eu ffurflen dreth 2020 i 2021 cyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2022.

Y cyfnodau ymgeisio a thalu SEISS yn ystod blwyddyn dreth 2020 i 2021 oedd:

  • SEISS 1: 13 Mai 2020 i 13 Gorffennaf 2020
  • SEISS 2: 17 Awst 2020 i 19 Hydref 2020
  • SEISS 3: 29 Tachwedd 2020 i 29 Ionawr 2021

Nid SEISS yw'r unig gynllun cymorth COVID-19 y dylai cwsmeriaid ei ddatgan ar eu ffurflen dreth. Os derbyniodd cwsmeriaid daliadau cymorth eraill yn ystod COVID-19, efallai y bydd angen iddynt nodi hyn ar eu ffurflen dreth os ydyn nhw'n:

  • hunangyflogedig
  • mewn partneriaeth
  • busnes

Mae gwybodaeth am y taliadau cymorth sydd angen hysbysu CThEM amdanynt ac unrhyw rai nad oes raid eu hysbysu amdanynt ar GOV.UK.

Mae'n bwysig bod cwsmeriaid yn gwirio ac yn gwneud unrhyw newidiadau i'w ffurflen dreth i sicrhau bod unrhyw SEISS neu daliadau cymorth COVID-19 eraill wedi'u hadrodd yn gywir yn eu ffurflen Hunanasesu.

Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.