BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Canllawiau Cymru ar gyfer busnesau twristiaeth

Mae Croeso Cymru wedi llunio canllawiau ar gyfer busnesau twristiaeth ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 a’r canllawiau dilynol a gyhoeddwyd, yn enwedig mewn perthynas â derbyn archebion rhwng nawr a 26 Medi.

Cyhoeddwyd Rheoliadau 2020 ar 7 Ebrill 2020 ac maent yn pwysleisio na ddylid cymryd unrhyw archebion ar gyfer y cyfnodau lle mae’n ofynnol cau llety gwyliau am y cyfnod cyfyngedig.

Bydd pob busnes llety gwyliau (heblaw lle ceir eithriadau cyfyngedig) yn aros ar gau hyd oni hysbysir yn wahanol, oni bai bod yr Awdurdod Lleol neu Weinidogion Cymru yn gwneud cais i’w hailagor at ddibenion penodol yn unig.

Mae’r cyfyngiad yn amodol ar adolygiad bob 21 diwrnod, gyda’r adolygiad nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 7 Mai 2020 (er y gall Llywodraeth Cymru wneud diwygiadau i’r Rheoliadau os yw’n gweld yr angen i wneud hynny o fewn y cyfnodau hyn).

Mae’r Rheoliadau yn dirwyn i ben ar 26 Medi 2020 ac os yw’r amgylchiadau yn mynnu hynny, gallai cyfnod pellach o gau y tu hwnt i 26 Medi 2020 fod yn bosibl.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau Twristiaeth Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.