BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID 19: cau busnesau ac adeiladau

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ynglŷn â chau’r holl fanwerthwyr sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol ac adeiladau eraill nad ydynt yn hanfodol, fel rhan o’r mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Mae’n rhaid i fusnesau ac adeiladau nad ydynt yn hanfodol gau nawr. Mae manwerthu ar-lein yn dal i fod ar agor ac yn cael ei annog a bydd gwasanaeth post a chludo yn gweithredu fel arfer.

Mae’n rhaid i’r adeiladau manwerthu ac adeiladau cyhoeddus y disgwyliwn iddynt aros ar agor:

  • sicrhau pellter o ddau fetr rhwng cwsmeriaid a chynorthwywyr siop
  • gadael i bobl gael mynediad i’r siop mewn grwpiau bach yn unig, er mwyn sicrhau nad yw’r gofod yn llawn pobl
  • mae angen rheoli ciwiau y tu allan i siopau ac adeiladau hanfodol eraill sy’n parhau ar agor

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i dudalennau cyngor Coronafeirws i fusnesau Busnes Cymru am wybodaeth ar gyfer eich busnes wrth ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.