BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19 – sut y gall profion helpu i reoli’r risg i’ch busnes

Mae cynnal profion COVID-19 cyflym yn rheolaidd yn rhan hanfodol o’r camau y gellir eu cymryd i reoli risgiau wrth inni ddysgu byw a gweithio ochr yn ochr â bodolaeth y feirws. Mae cynllunio ymlaen llaw yn helpu i gadw eich staff, eich cwsmeriaid, a’ch busnes yn ddiogel.

Nid yw bron i 1 ym mhob 3 o bobl sydd â’r coronafeirws yn dangos unrhyw symptomau, ac felly mae’n bwysig bod pobl yn cael profion rheolaidd er mwyn helpu i atal y feirws rhag lledaenu. Mae profion cyflym ddwywaith yr wythnos ar gael i bobl na allant weithio o gartref. Mae’r profion hyn yn rhoi canlyniad o fewn 30 o funudau, ac felly mae’n bosibl eu gwneud yn gyflym yn y cartref neu yn y gwaith.

Gall busnesau, sydd â 10 neu fwy o weithwyr na allant weithio o gartref, gael profion COVID-19 cyflym am ddim drwy ymuno â rhaglen profion yn y gweithle Llywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen profion yn y gweithle yn cynnig y canlynol:

  • Y gallu i gynnal profion rheolaidd ar bobl asymtomatig yn y gwaith, drwy safleoedd profi a oruchwylir a phecynnau hunan-brofi. 
  • Y gallu i brofi gweithwyr yn rheolaidd er mwyn canfod achosion positif a’u hynysu’n gyflym, gan atal trosglwyddiad pellach. Fel arfer bydd hynny’n cynnwys profi’r gweithlu unwaith neu ddwywaith yr wythnos.
  • Y gallu i ddarparu sicrwydd i’r gweithwyr hynny na allant weithio o gartref.

Sut i ymuno â’r rhaglen profion yn y gweithle 
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen profion yn y gweithle ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru/fframwaith-profi-covid-19-yn-y-gweithle  neu, cewch e-bostio’r tîm: Covid19.WorkplaceTesting@llyw.cymru

Profion cyflym am ddim i fusnesau llai o faint
Os oes gan eich busnes lai na 10 o weithwyr na allant weithio o gartref, gall eich staff archebu pecynnau o hunan-brofion cyflym ar lein, neu eu casglu o’u pwynt casglu agosaf: www.gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests  
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.