BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod grantiau o rhwng £10,000 a £100,000 ar gael i sefydliadau gwirfoddol sy’n darparu cymorth hanfodol i gymunedau yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Bwriad Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol yw sicrhau bod gan sefydliadau'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gynnal, cynyddu ac addasu gweithgareddau sy’n cefnogi pobl fregus a difreintiedig yn eu cymunedau, fel:

  • pobl sy’n ynysu
  • pobl oedrannus
  • gofalwyr
  • pobl sy’n cael anhawster cael gafael ar fwyd

Gellir defnyddio cyllid ar gyfer gwariant cyfalaf neu refeniw llai, e.e. cyfarpar diogelu personol, ond mae’n rhaid i’r cais gydymffurfio â nodau’r grant neu gynyddu’r gwasanaethau gwirfoddol sydd ar gael ar gyfer unigolion bregus a chymunedau sy’n cael eu heffeithio gan coronafeirws.

Yn y lle cyntaf, bydd y cyllid ar gael am hyd at chwe mis a gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.