BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Darparwyr Preifat Y Sector Chwaraeon

Mae Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon yn cynnig cymorth ariannol i ddarparwyr preifat a masnachol. Nod y gronfa yw sicrhau bod busnesau preifat yn gallu dod allan o'r pandemig i barhau i ddarparu cyfleoedd sy'n cadw pobl yn actif ledled Cymru. 

Mae'r gronfa ar gyfer darparwyr preifat a masnachol sy'n darparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn uniongyrchol i'r cyhoedd yng Nghymru fel:

  • campfeydd masnachol
  • stiwdios dawns a ffitrwydd
  • darparwyr marchogaeth ceffylau
  • darparwyr chwaraeon modur
  • parciau sglefrio
  • pharciau trampolinio 

Bydd grantiau o £5,000 a £15,000 (gan ddibynnu ar drosiant blynyddol) ar gael i'r rhai sy'n gallu dangos eu bod wedi profi colled net o weithrediadau a fyddai wedi digwydd yng Nghymru, ers mis Ebrill 2020, o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Gellir gwneud ceisiadau i Gronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon drwy wefan Chwaraeon Cymru  tan 4pm ddydd Gwener 19eg Chwefror 2021.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Chwareon Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.