BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig

Bydd Awdurdodau Lleol yn darparu grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig (NDR) i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol (NERHLT). Ni fydd proses ymgeisio ar gyfer yr elfen hon ond i gael taliad, rhaid i fusnesau gofrestru â’u hawdurdod lleol i gadarnhau eu manylion. 

Yna bydd grantiau cysylltiedig ag NDR yn cael eu talu’n uniongyrchol i dalwyr ardrethi fel a ganlyn:

  • Bydd busnesau NERHLT sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys am daliad o £2,000.
  • Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys am daliad o £4,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.
  • Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £500,000 yn gymwys am daliad o £6,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.

Bydd y broses gofrestru ar gyfer y grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig yn agor ar 13 Ionawr 2022. Gellir dod o hyd i wefannau Awdurdodau Lleol drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/grant-cyfradd-ardrethi-annomestig-2022, edrychwch ar eu tudalennau'n rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Bydd awdurdodau lleol hefyd yn rhedeg Y Gronfa Argyfwng Busnes drwy broses ymgeisio fer. Bydd unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsi yn gallu gwneud cais am £1,000 a bydd busnesau sy’n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes yn gallu gwneud cais am £2,000. Mae'r cyllid hwn hefyd ar gael i weithwyr llawrydd yn y sector creadigol.

·      Bydd ceisiadau'n agor yr wythnos sy'n dechrau 17 Ionawr 2022 (gall y dyddiad hwn amrywio ar draws yr Awdurdodau Lleol). Edrychwch ar dudalen eich Awdurdod Lleol am ddiweddariadau a mwy o fanylion.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.