BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cam 3

Mae Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cam 3 yn cau ar ddydd Llun 7 Rhagfyr 2020 am 5yp.

Mae y gronfa’n cefnogi gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y meysydd isod:

  • Y Celfyddydau
  • Digwyddiadau Celf a Threftadaeth
  • Digwyddiadau nad ydynt yn gysylltiedig â chwaraeon sydd wedi’u heffeithio’n sylweddol gan y Pandemig
  • Diwydiannau Creadigol
  • Diwylliant a threftadaeth

Byddwn yn cefnogi gweithwyr llawrydd sy'n gweithio mewn digwyddiadau sydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol gan y Pandemig, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn priodasau a digwyddiadau corfforaethol, ond nid digwyddiadau chwaraeon.

Mae’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd bellach ar gau ledled Cymru. Mae ceisiadau terfynol yn cael eu prosesu gan awdurdodau lleol am y £10.5m a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr llawrydd mewn diwylliant a’r celfyddydau.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.