BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Crynodeb o’r rhyddhadau treth sydd ar gael ar gyfer cwmnïau arloesol

Gwybodaeth am gysylltiadau ac arweiniad a rhoddir gan Gyllid a Thollau EM. Sylwer fod yr wybodaeth hon yn gywir ar 1 Ebrill 2022 ac mae’n bosibl y gall pethau newid.

Cymhellion a Rhyddhadau sydd ar gael

Blwch Patent

Nod y Blwch Patent yw rhoi cymhelliant ychwanegol er mwyn i gwmnïau gadw a masnacheiddio patentau sy’n bodoli eisoes a datblygu cynhyrchion patent arloesol newydd:

Credydau Treth Ymchwil a Datblygu (R&D), (gan gynnwys Sicrwydd o Flaen Llaw)

Mae rhyddhad treth (neu gredyd) Ymchwil a Datblygu (R&D) yn rhyddhad treth cwmni a all ostwng bil treth cwmni neu, mewn rhai achosion, ymwneud â thaliad o gredyd gan CThEM i’r cwmni. Mae’n seiliedig ar wariant y cwmni ar Ymchwil a Datblygu:

Rhyddhadau Treth Creadigol (Ffilm, Animeiddio, Teledu o safon uchel, Teledu Plant, Gemau Fideo, Theatr, Cerddorfeydd, ac Amgueddfeydd ac Orielau)

Mae’r rhain yn grŵp o wyth rhyddhad sy’n galluogi cwmnïau cymhwysol i hawlio didyniad mwy ar gyfer treuliau penodol. Bydd y cwmni’n cael gostyngiad yn ei rwymedigaeth Treth Gorfforaeth, neu mewn rhai amgylchiadau, yn ei gredyd treth taladwy: Ryddhadau treth y diwydiant creadigol ar gyfer Treth Gorfforaeth - GOV.UK

Cynlluniau Cyfalaf Mentrau (EIS, SEIS, VCT)

Bwriad y cynlluniau yw cymell buddsoddiad mewn cwmnïau masnachu llai, risg uwch, heb eu rhestru a fyddai fel arall yn ei chael yn anodd cael gafael ar gyllid ar gyfer twf trwy ddarparu ystod o ostyngiadau treth incwm a threth enillion cyfalaf i fuddsoddwyr unigol.

Dulliau o gysylltu

Drwy e-bost

Dros y ffôn

Mae rhif llinell gymorth benodedig, sef 0300 123 3440, dewiswch o’r opsiynau a restri.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.