BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

CThEM: gennych chi weithwyr yn gweithio gartref yn sgil COVID-19?

Os ydych chi wedi gofyn i’ch gweithwyr weithio gartref yn sgil COVID-19 yna efallai eu bod wedi gorfod ysgwyddo costau ychwanegol. Os nad ydych chi wedi ad-dalu’ch gweithwyr, gallant hawlio rhyddhad treth ar £6 yr wythnos neu £26 y mis ar gyfer y costau ychwanegol hyn. Os ydyn nhw am hawlio mwy, rhaid iddyn nhw roi tystiolaeth i’r CThEM i gefnogi eu cais.

Gallant ddim ond hawlio os ydych chi wedi gofyn iddyn nhw weithio gartref am yr holl wythnos, neu am ran ohoni. Er enghraifft, am fod gennych chi system rota ar waith er mwyn sicrhau y gellir cadw pellter cymdeithasol.

Sut mae hawlio

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o hawlio yw gwneud cais ar-lein yn GOV.UK. Mae’n ddiogel ac yn sicrhau y byddant yn derbyn yr holl arian y mae ganddyn nhw’r hawl iddo.

Bydd codau treth eich gweithwyr yn cael eu haddasu, gan leihau’r dreth y maen nhw’n ei dalu. Os yw’ch gweithwyr yn dewis hawlio drwy asiant trydydd parti, dylent fod yn ymwybodol y bydd y rhain yn codi ffi fel arfer, gan leihau’r swm o ryddhad treth a dderbynnir.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.