BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cwsmeriaid Credyd Treth Gwaith yn gorfod rhoi gwybod am newidiadau mewn oriau gwaith

Mae CThEM yn annog cwsmeriaid Credyd Treth Gwaith i edrych a oes angen iddynt ddiweddaru eu horiau gwaith os yw’r rhain wedi’u gostwng yn sgil coronafeirws.

Yn ystod y pandemig, nid yw cwsmeriaid Credyd Treth Gwaith wedi bod angen dweud wrth CThEM am ostyngiadau tymor byr dros dro yn eu horiau gwaith yn sgil coronafeirws – er enghraifft os oeddynt yn gweithio llai o oriau neu ar ffyrlo.

Os gostyngodd oriau cwsmer Credyd Treth dros dro oherwydd coronafeirws, maent wedi’u trin fel eu bod yn gweithio eu horiau arferol.

Nid oes angen i gwsmeriaid ddweud wrth CThEM os ydynt yn ailafael yn eu horiau gwaith arferol cyn 25 Tachwedd 2021, ond o hynny ymlaen, mae’n rhaid iddynt wneud o fewn y ffenestr mis arferol os nad ydynt yn ôl yn gweithio eu horiau arferol sydd wedi’u nodi ar eu hawliad Credyd Treth Gwaith.

Gellir rhoi gwybod yn hawdd ar-lein ar GOV.UK, lle gall cwsmeriaid hefyd wirio manylion eu hawliad Credyd Treth Gwaith presennol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.