BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfarfodydd Busnes Digidol

Os ydych chi’n arloeswr sy’n chwilio am gefnogaeth i ddatblygu’ch busnes, ymunwch â’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth am wybodaeth a digwyddiadau rhwydweithio ar-lein.

Y gobaith yw codi ymwybyddiaeth ymysg cwmnïau digidol am gyllid a chyfleoedd cymorth busnes i fusnesau a sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn y DU ledled sectorau amrywiol.

Mae’r sesiynau yn cynnwys:

  • Deallusrwydd artiffisial – 10 Medi 2020, cadwch eich lle yma
  • Cynaliadwyedd – 22 Hydref 2020, cadwch eich lle yma
  • Diwydiannau Creadigol – 3 Rhagfyr 2020, cadwch eich lle yma
  • 5G ac IoT – 21 Ionawr 2021, cadwch eich lle yma 
  • Cyfleoedd a Chydweithredu Rhyngwladol – 4 Mawrth 2021, cadwch eich lle yma 

Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd ar gyfer arloeswyr, ewch i wefan KTN.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.