BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid i gynorthwyo mentrau cymdeithasol cychwynnol yng Nghymru

Mae Cronfa SE-Assist Cymru yn cynnig pecynnau cyllid cyfunol y gellir eu defnyddio i'ch helpu i dyfu, dod yn fwy cynaliadwy neu gynyddu gallu eich busnes. Mae hefyd yn cynnig mentora arbenigol i ganolbwyntio'ch cyfeiriad a'ch cynlluniau twf.

Mae SE-Assist ar gyfer mentrau cymdeithasol, yn ogystal ag elusennau entrepreneuraidd, sy'n diwallu angen cymdeithasol neu amgylcheddol lleol.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn pecyn cymorth gan gynnwys:

  • Pecyn cyllid cyfunol o fenthyciad di-log hyd at £20,000 (gyda'r potensial i fenthyg mwy ar 6.5%) gyda grant o hyd at £10,000 ochr yn ochr ag ef.
  • Cymorth i wella rheolaeth ariannol.
  • Mynediad dewisol at gymorth mentora busnes arbenigol.
  • Mynediad dewisol at amrywiaeth o gymorth arbenigol ar gyfer datblygiad sefydliadol.

Mae ceisiadau ar agor ir Gronfa SE-Assist Cymru tan 23 Gorffennaf 2021.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ac enghreifftiau o fenthyciadau menter gymdeithasol llwyddiannus yn y gorffennol, ewch i fenthyciadau di-log i helpu eich menter gymdeithasol i dyfu | SE-Assist (cafonline.org) 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.