BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth gwerth £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i fusnesau sydd wedi dioddef llifogydd

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at £2.5 miliwn o gyllid argyfwng ar gyfer busnesau sydd wedi dioddef yn ddifrifol yn sgil y llifogydd a achoswyd gan Storm Ciara a Storm Dennis. 

Bydd busnesau sy'n ceisio dod dros effeithiau dinistriol y llifogydd ac ailddechrau, a busnesau bach a chanolig eu maint yn benodol, yn gallu gwneud cais am grant o £2,500 i'w helpu i ddod yn gwbl weithredol eto cyn gynted â phosibl. 

Bydd y gronfa’n cael ei gweinyddu gan Busnes Cymru a bydd yn rhoi cymorth i fusnesau â chostau uniongyrchol adfer eu busnes sydd ddim wedi'u cynnwys yn eu hyswiriant ac i gyfrannu at y gost o rentu rhywle arall a chadw staff.  

Mae'r gronfa gwerth £2.5 miliwn yn ychwanegol at y cymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i dalu costau rhyddhad ardrethi busnes dewisol oherwydd y llifogydd am hyd at dri mis lle mae'r llifogydd wedi effeithio ar sawl eiddo busnes mewn un lleoliad penodol. 

Bydd rhagor o fanylion ynghylch sut i wneud cais am y gronfa ar gael ar wefan Busnes Cymru yn y dyddiau nesaf.

Gallwch gofrestru eich diddordeb mewn gwneud cais am y gronfa drwy ffonio Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.