BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth i Dyfu eich busnes

Bellach, gall arweinwyr busnesau bach gofrestru eu diddordeb ar gyfer Cymorth i Dyfu Rheolaeth/Help to Grow Management, rhaglen 12 wythnos a ddarperir gan ysgolion busnes blaenllaw ledled y DU. Fe’i cynlluniwyd i fod yn rhaglen hyblyg i’w chyflawni ochr yn ochr â gwaith llawn amser, a bydd yn cefnogi arweinwyr busnesau bach i ddatblygu eu sgiliau strategol gyda modiwlau allweddol sy'n rhoi sylw i reolaeth ariannol, arloesedd a meithrin y maes digidol.

Rhaglen ar gyfer pwy?

Y busnesau cymwys yw rhai'r DU o unrhyw sector sydd wedi bod yn gweithredu am fwy na blwyddyn, gyda rhwng 5 a 249 o weithwyr.
Dylai'r cyfranogwr fod yn unigolyn sy’n gwneud penderfyniadau neu'n aelod o'r uwch dîm rheoli o fewn y busnes e.e. Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Cyllid ac ati. Nid yw elusennau'n gymwys.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ar dudalen yr ymgyrch Help to Grow
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.