BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyngor newydd i gadw Cymru'n ddiogel dros y Nadolig

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobl ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig.

Bydd Cymru wedyn yn cyflwyno cyfyngiadau newydd, gan gynnwys ar gyfer busnesau a gwasanaethau – a hynny o 27 Rhagfyr 2021 ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys rheol cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff – ee, systemau unffordd a rhwystrau ffisegol.

Bydd clybiau nos yn cau hefyd. Mae angen y cyfyngiadau llymach hyn i helpu i reoli lledaeniad Omicron.

Heddiw, bydd y Prif Weinidog yn annog pawb i ddilyn pum cam syml ar gyfer Nadolig mwy diogel, gan bwysleisio bod cwrdd â nifer o bobl yn y cyfnod cyn y Nadolig yn creu mwy o gyfle i’r feirws ledaenu.

Bydd lleihau ein cyswllt  ag eraill, yn enwedig os ydym yn cwrdd dros y Nadolig â phobl hŷn neu bobl agored i niwed, yn helpu i'w hamddiffyn nhw rhag y feirws.

Er mwyn cadw'n ddiogel yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pawb yn gryf i ddilyn y pum mesur hyn i gadw'n ddiogel:

  • Cael eich brechu – ac os ydych wedi cael apwyntiad i gael pigiad atgyfnerthu, ewch amdani.
  • Os ydych yn mynd allan, yn mynd i siopa Nadolig neu'n ymweld â phobl – cyn gadael y tŷ, profwch da chi. Cymerwch brawf llif unffordd. Os yw'n bositif – arhoswch gartre.
  • Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well na chwrdd dan do. Os ydych yn cwrdd dan do, gwnewch yn siŵr fod yno ddigon o awyr iach.
  • Cymdeithasu bob hyn a hyn – os ydych wedi trefnu digwyddiadau, gadewch o leiaf ddiwrnod rhyngddynt.
  • A chofiwch gadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb a golchi'ch dwylo.

Bydd y rheoliadau hefyd yn cael eu newid i gynnwys gofyniad i weithio gartref lle bynnag y bo modd.

Ar ôl y Nadolig, ar 27 Rhagfyr 2021 bydd cyfyngiadau cyfreithiol newydd yn dod i rym, i helpu i ddiogelu rhag lledaeniad amrywiolyn Omicron.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd hyd at £60m ar gael i gefnogi busnesau a gaiff eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd.

Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.