BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Kickstart yn agor ar gyfer ceisiadau gan gyflogwyr

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Kickstart i greu lleoliadau swyddi newydd am gyfnod o 6 mis ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor.

Mae’r lleoliadau ar agor i’r rhai rhwng 16 a 24 oed sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor. Byddant ar gael ar draws amrywiaeth o wahanol sectorau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Bydd cyflogwyr yn cael cyllid ar gyfer 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos, ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig gan y cyflogwr ac isafswm cyfraniadau cofrestru awtomatig pensiwn gan y cyflogwr.

Dysgwch:

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV‌‌.UK

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.