BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun newydd i helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd i helpu i ddatblygu’r dalent bresennol a’r genhedlaeth nesaf o dalent ym meysydd teledu a ffilm, cerddoriaeth a chynnwys digidol.

Lansiodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, gronfa gwerth £1 miliwn hefyd er mwyn cefnogi’r cynllun newydd hwn.

Mae’r diwydiannau creadigol yn hynod bwysig i economi a diwylliant Cymru. Yn ôl data ar gyfer 2021, roedd sectorau’r diwydiannau creadigol yng Nghymru – sy’n cynnwys 3,423 o fusnesau – yn cyflogi 35,400 o bobl, sef cynnydd o 6.4 y cant ers 2018, a chynhyrchodd y diwydiant drosiant blynyddol o £1.7 biliwn yn 2021, sef cynnydd o 14 y cant ers 2017.

Mae asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru, Cymru Greadigol, wedi ymrwymo i gefnogi a meithrin y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol.

Mae Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol 2022 i 2025 wedi’i gynllunio i gefnogi datblygu gweithlu medrus yng Nghymru – gweithlu sydd ei angen ar y sector er mwyn iddo ffynnu. Bydd hefyd yn ystyried nodau dros yr hirdymor i sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn lle ffyniannus a chreadigol i wneud busnes.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar dri sector â blaenoriaeth: cerddoriaeth, cynnwys digidol, a ffilm a theledu.

I gefnogi’r cynllun gweithredu, mae Cronfa Sgiliau Creadigol newydd gwerth £1 miliwn wedi cael ei lansio er mwyn cefnogi prosiectau o safon sy’n darparu sgiliau a hyfforddiant yn y diwydiannau creadigol.

Bydd rhwng £15,000 a £200,000 ar gael ar gyfer prosiectau llwyddiannus, tan 31 Mawrth 2024.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Cynllun newydd i helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol yng Nghymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.