A ydych chi mewn perygl o ddioddef ymosodiad seiber?
Mae risgiau seiber ymhlith y bygythiadau mwyaf i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru.
Os ydych chi’n fusnes ac yn defnyddio unrhyw un o’r offer busnes sylfaenol canlynol, gallech chi fod mewn perygl:
- E-bost
- Cadw data cwsmeriaid
- Cynnal gwefan
- Derbyn taliadau ar-lein
Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei hariannu gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru i ymchwilio i wydnwch BBaChau yng Nghymru. Bu’r tîm hwn yn cynnal arolygon ar BBaChau yng Nghymru, yn dadansoddi polisïau yswiriant seiber, ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth ledled Cymru.
Cyhoeddir y canfyddiadau cyn hir, ac mae’r rhain yn amlygu’r ffaith ofidus ei bod yn ymddangos nad yw’r rhan fwyaf o BBaChau yn sylweddoli pwysigrwydd cael offer lliniaru seiber/seiberddiogelwch ar waith. Mae hyn yn gadael llawer o fusnesau yng Nghymru yn agored i ymosodiad seiber. Hyd yn oed mewn busnesau sydd wedi trefnu yswiriant yn erbyn risgiau seiber, nid yw’r yswiriant hwnnw bob amser yn addas at y diben. Mae’r ieithoedd technegol a ddefnyddir yn y polisïau hyn yn golygu nad yw’r rhan fwyaf o BBaChau yn ymwybodol o effeithiau posibl unrhyw gymalau rheoli risg a hawliadau.
Mae digwyddiadau am ddim i godi ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch yn cael eu cynnal ar hyn o bryd mewn nifer o fannau ledled Cymru i helpu i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth perchenogion busnesau o risgiau seiber a chamau gweithredu y gallant eu cymryd i gadw eu hunain yn ddiogel.
Cynhelir y digwyddiad nesaf ar 28 Mehefin 2023 yng Nghaerdydd, Risgiau Seiber: Adeiladu Cydnerthedd Ac Yswiriant Fel Offeryn Lliniaru.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cyber Risks: Building Resilience and Insurance as a Mitigation Tool Tickets, Wed, Jun 28, 2023 at 12:00 PM | Eventbrite
Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yn: Cyber Risk Insurance: Building Resilience in Wales - Swansea University